
Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau
Mae fy eiddo o dan anfantais benodol
Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol
Gallwch apelio os ydych yn credu bod eich eiddo o dan anfantais benodol nad ydym wedi'i hadlewyrchu yn eich gwerth ardrethol . Bydd angen i chi ddarparu rhesymau pam rydych yn credu hyn.
Beth yw anfantais benodol?
Anfantais benodol yw rhywbeth sy'n unigryw i'ch eiddo chi ac a fydd yn gostwng ei werth rhentu o gymharu ag eiddo tebyg yn yr ardal. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
- Ffryntiad cul
- Gwelededd y safle manwerthu o'r stryd yn wael, o ganlyniad i strwythur yr eiddo
- Llety wedi'i gynllunio'n anghyfleus
- Mynediad gwael neu gyfyngedig i gerbydau
Efallai ein bod eisoes yn cynnwys yr anfantais wrth asesu eich gwerth ardrethol. Os mai dyma'r achos, caiff ei restru fel newid i'r gwerth ardrethol.
Beth i'w wneud nesaf
- Cysylltwch â'ch swyddfa brisio leol
- Cyn gwneud apêl: Gwiriwch eich manylion (rydym yn defnyddio'r manylion hyn i weithio allan eich gwerth ardrethol).
- Gwneud apêl