llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau

Mae fy ngwerth ardrethol yn uwch nag eiddo tebyg neu eiddo cyfagos

Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol

Gallwch apelio os ydych yn credu bod eich gwerth ardrethol yn uwch nag eiddo tebyg. Bydd angen i chi ddarparu rhesymau pam rydych yn credu hyn.

Efallai y bydd eiddo tebyg yn debyg o ran maint, defnydd, lleoliad neu safon i'ch eiddo chi. Er enghraifft, os ydych yn fanwerthwr ar stryd fawr, gall eiddo tebyg fod yn fanwerthwr arall, tua'r un maint, ar yr un stryd.

Mae sawl rheswm pam y gall eich gwerth ardrethol fod yn uwch nag eiddo tebyg neu eiddo cyfagos. Ymhlith y rhain mae:

  • Maint , lleoliad a nodweddion yr eiddo
  • P'un a oes mannau parcio ar y safle ai peidio
  • Mae gwerthoedd gwahanol gan wahanol fathau o ddefnydd: er enghraifft, efallai y bydd gwerth uwch gan ardaloeddmanwerthu, swyddfeydd neu ystafelloedd arddangos mewn eiddo na gofod storio.

Beth y dylech ei wneud cyn apelio?

Cyn apelio cymharwch eich gwerth ardrethol ag eiddo tebyg yn yr ardal. Byddwn yn awtomatig yn dangos yr eiddo cyfagos rydym yn credu sy'n debyg. Os oes ganddynt werthoedd ardrethol nad ydynt yn debyg, soniwch amdanynt yn eich apêl.

Beth i'w wneud nesaf