llamu i gynnwys y tudalen

Rydych chi ar y: dudalen Cwestiynau Cyffredin Apeliadau

Ni allaf dalu fy ardrethi

Gellir datrys problem o'r math hwn yn aml drwy gysylltu â'ch swyddfa brisio leol

A ydych yn cael trafferth talu eich bil?

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i drafod pa opsiynau sydd ar gael i chi.

Caiff y bil ei gyfrifo a'i gasglu gan eich cyngor lleol yn seiliedig ar y gwerth ardrethol a osodwyd ar yr eiddo gan y VOA. Nid yw'r gallu i dalu'r bil yn sail ddilys i apelio yn erbyn gwerth ardrethol yr eiddo, a bydd unrhyw apêl ar y sail hon yn annilys.

Os ydych yn credu bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel, gallwch apelio yn ei erbyn. Edrychwch ar y rhesymau dros apelioAppeal_valuation.html a dywedwch wrthym pam eich bod yn credu bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel.

Os byddwch yn penderfynu apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol, mae'n rhaid i chi barhau i dalu eich bil. Os ydych yn cael problemau talu, cysylltwch â'ch cyngor lleol i drafod opsiynau talu.

Efallai y gallwch wneud cais am ryddhad ardrethi

Mae sawl cynllun rhyddhad ardrethi ar gael a allai leihau'r bil a dderbyniwyd gennych. Caiff y cynlluniau rhyddhad hyn eu gweinyddu gan eich cyngor lleol.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach os yw eich gwerth ardrethol islaw lefel benodol. Mae'r system ar gyfer hyn yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr.
  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad caledi gan eich cyngor lleol. Mae hwn yn ddewisol a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.